Welsh writers A470 Bilingual Welsh-English Poetry Anthology Submission Call

Featured

We are looking for poems linked to The A470

Mae gwasg Arachne Press yn eich gwahodd i gynnig cerddi gwreiddiol sy’n gysylltiedig efo’r A470 ar gyfer blodeugerdd.

draft cover. Image by Sarah Hopkins

Arguably the most famous road in Wales, the A470 is 186 miles from shore to shore through the backbone of Wales, linking north to south. Peaceful and picturesque or slow and never-ending, what does the A470 mean to you? The road out of here, the road home, the beginnings of devolution? Glorious national parks, bypasses, being stuck behind a certain lorry firm or worse, a caravan, the road to the Royal Welsh? From the seashore to slates, from nuclear power stations and fighter plane flypasts to forests and mountains: Bwlch yr Oerddrws, Pen Y Fan. On the road or on a journey, there’s no need to take the A470 too literally.

Be ydi’r A470 i chi – siwrne dawel trwy harddwch Cymru neu daith araf a diddiwedd? Ai hon yw’r ffordd i adael, neu’r ffordd adref, neu ddechrau datganoli? Parciau Cenedlaethol, ffyrdd osgoi, llusgo mynd tu ôl i lori neu waeth fyth garafán, y ffordd i’r Sioe Frenhinol? Traethau, chwareli, pwerdai niwclear, awyrennau rhyfel, coedwigoedd, mynyddoedd, Bwlch yr Oerddrws, Pen y Fan? Taith ddiriaethol ar y tarmac neu daith o fath gwahanol? Does dim rhaid dehongli’r A470 yn llythrennol.

Arachne Press’ first foray into Welsh language poetry came from the publication of Ness Owen’s Mamiaith (Mother Tongue). We enjoyed the translation process both Welsh to English and English to Welsh and we’re back for more, with Ness and fellow editor Sian Northey, who helped with those translations, at the helm. (Sian takes credit for the brilliant A470 idea.) This is part of our plan for the next three years and we anticipate publication in March 2022. You may also be interested in our anthologies for BME writers and deaf writers.

Mentrodd Arachne Press, gwasg fechan yn Llundain, i fyd cyhoeddi barddoniaeth Gymraeg am y tro cyntaf trwy gyhoeddi Mamiaith gan Ness Owen. Fe wnaethom fwynhau’r broses o gyfieithu’r cerddi o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg, felly dyma ni’n ôl yn awyddus i wneud mwy dan ofal Ness a’i chyd-olygydd Sian Northey (awgrym Sian oedd y teitl A470). Mae hyn yn rhan o’n cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cyhoeddi’r gyfrol yn Mawrth 2022. Byddwn hefyd yn cyhoeddi blodeugerddi eraill – cerddi Albanaidd, cerddi gan feirdd BAME a cherddi gan feirdd b/Byddar – gyda ‘Mapio’ yn thema gyffredinol i’r cyfan.

Sian Northey & Ness Owen

We want unpublished poems from Welsh poets wherever you are, and all other poets living in Wales. We are looking for the unanticipated: sensitive poems, or poems that challenge, in traditional forms and new forms. NO Erotica, horror, gratuitous violence, sexism, racism, or homophobia. We actively encourage submissions from underrepresented voices, including ethnically diverse poets, LGBTQ poets, poets with disabilities, poets with experience of multiple socio-economic deprivation and women poets.

Rydym yn edrych am gerddi sydd heb eu cyhoeddi eisoes, gan feirdd Cymraeg a Chymreig lle bynnag maent yn byw, a beirdd sydd yn byw yng Nghymru. Rydym yn edrych am wreiddioldeb: cerddi teimladwy, neu gerddi sy’n herio, cerddi caeth neu gerddi rhydd. NI fyddwn yn derbyn erotica, arswyd, trais dianghenraid, rhywiaeth, hiliaeth, na homoffobia. Rydym yn annog cyfraniadau gan leisiau sydd yn cael eu tangynrychioli, gan gynnwys beirdd o gefndiroedd ethnig amrywiol, beirdd LGBTQ, beirdd â phrofiad o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, a menywod.

This will be a fully bilingual anthology, celebrating the magnificence of both languages, and the artistry of both poets and translators. Poems may be submitted in Welsh, English or in both languages. Poems that are submitted in one language only will be translated – either by the poet themselves or experienced translators, including our editor, Sian Northey.

Bydd hon yn flodeugerdd gyfan gwbl ddwyieithog, yn dathlu gwychder y ddwy iaith, ac yn dathlu doniau beirdd a chyfieithwyr. Gallwch gynnig cerddi yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Bydd cerddi sy’n cael eu derbyn mewn un iaith yn unig yn cael eu cyfieithu – gan y bardd ei hun neu gan gyfieithwyr profiadol gan gynnwys Sian Northey, un o’r golygyddion.

We aim to give Welsh and English equal weight and the translations will be laid out side by side. This does mean each poem, regardless of language, can only be 27 lines including title and spaces between stanzas. We have room for a maximum of 50 poems plus their translation.

Y nod yw trin y ddwy iaith yn gyfartal ac fe fydd y cyfieithiadau yn cael eu gosod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Golyga hyn na all yr un gerdd, na’i chyfieithiad, fod yn fwy na 27 llinell, gan gynnwys y teitl a’r bylchau rhwng penillion. Bydd lle yn y gyfrol ar gyfer uchafswm o 50 o gerddi a’u cyfieithiadau.

We will pay royalties. Tell us you are interested in either language or both.

Telir breindal i’r beirdd, ond mae’n annhebygol y bydd tâl o flaen llaw am y cerddi – bydd hynny’n dibynnu ar y nawdd a dderbynnir. Gadewch i ni wybod a oes genych ddiddordeb cyfrannu cerdd/cerddi trwy’r ddolen Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.

We much prefer work that is unpublished but if you have a published piece that is a perfect fit, we will consider it. Please submit 1-3 poems.Rydym yn ffafrio gwaith sydd heb ei gyhoeddi, ond os oes ganddoch gerdd wedi’i chyhoeddi sy’n ffitio’n berffaith rydym yn fodlon ei hystyried. Gallwch gynnig 1-3 cerdd.

Submit here

Gwahoddwn feirdd Cymreig i fynegi eu diddordeb

[English version]

Mae gwasg Arachne Press yn eich gwahodd i gynnig cerddi gwreiddiol sy’n gysylltiedig efo’r A470 ar gyfer blodeugerdd.
Ar hyn o bryd nid oes ond angen mynegi diddordeb, er mwyn ein galluogi i wneud cais am nawdd.

Be ydi’r A470 i chi – siwrne dawel trwy harddwch Cymru neu daith araf a diddiwedd? Ai hon yw’r ffordd i adael, neu’r ffordd adref, neu ddechrau datganoli? Parciau Cenedlaethol, ffyrdd osgoi, llusgo mynd tu ôl i lori neu waeth fyth garafán, y ffordd i’r Sioe Frenhinol? Traethau, chwareli, pwerdai niwclear, awyrennau rhyfel, coedwigoedd, mynyddoedd, Bwlch yr Oerddrws, Pen y Fan? Taith ddiriaethol ar y tarmac neu daith o fath gwahanol? Does dim rhaid dehongli’r A470 yn llythrennol.

Mentrodd Arachne Press, gwasg fechan yn Llundain, i fyd cyhoeddi barddoniaeth Gymraeg am y tro cyntaf trwy gyhoeddi Mamiaith gan Ness Owen. Fe wnaethom fwynhau’r broses o gyfieithu’r cerddi o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg, felly dyma ni’n ôl yn awyddus i wneud mwy dan ofal Ness a’i chyd-olygydd Sian Northey (awgrym Sian oedd y teitl A470). Mae hyn yn rhan o’n cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cyhoeddi’r gyfrol yn yr hydref 2022. Byddwn hefyd yn cyhoeddi blodeugerddi eraill – cerddi Albanaidd, cerddi gan feirdd B.M.E. a cherddi gan feirdd Byddar – gyda ‘Mapio’ yn thema gyffredinol i’r cyfan.

Rydym yn edrych am gerddi sydd heb eu cyhoeddi eisoes, gan feirdd Cymraeg a Chymreig lle bynnag maent yn byw, a beirdd sydd yn byw yng Nghymru.

Rydym yn edrych am wreiddioldeb: cerddi teimladwy, neu gerddi sy’n herio, cerddi caeth neu gerddi rhydd.

NI fyddwn yn derbyn erotica, arswyd, trais dianghenraid, rhywiaeth, hiliaeth, na homoffobia.

Rydym yn annog cyfraniadau gan leisiau sydd yn cael eu tangynrychioli, gan gynnwys beirdd o gefndiroedd ethnig amrywiol, beirdd LGBTQ, beirdd â phrofiad o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, a menywod.

Bydd hon yn flodeugerdd gyfan gwbl ddwyieithog, yn dathlu gwychder y ddwy iaith, ac yn dathlu doniau beirdd a chyfieithwyr.

Gallwch gynnig cerddi yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Bydd cerddi sy’n cael eu derbyn mewn un iaith yn unig yn cael eu cyfieithu – gan y bardd ei hun neu gan gyfieithwyr profiadol gan gynnwys Sian Northey, un o’r golygyddion.

Y nod yw trin y ddwy iaith yn gyfartal ac fe fydd y cyfieithiadau yn cael eu gosod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Golyga hyn na all yr un gerdd, na’i chyfieithiad, fod yn fwy na 27 llinell, gan gynnwys y bylchau rhwng penillion. Bydd lle yn y gyfrol ar gyfer uchafswm o 50 o gerddi a’u cyfieithiadau.

Telir breindal i’r beirdd, ond mae’n annhebygol y bydd tâl o flaen llaw am y cerddi – bydd hynny’n dibynnu ar y nawdd a dderbynnir.

Gadewch i ni wybod a oes genych ddiddordeb cyfrannu cerdd/cerddi trwy’r ddolen hon https://arachnepress.submittable.com/submit dyddiad cau 8 Ionawr 2021

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Y cyfan sydd ei angen ar hyn o bryd yw eich enw a’ch manylion cyswllt a pharagraff byr amdanoch gan gynnwys, os yw’n berthnasol, wybodaeth am waith sydd wedi’i gyhoeddi eisoes.

Expressions of interest invited from Welsh poets

Arachne Press are looking for poems linked to The A470

Expressions of interest only at this stage, so that we can make a clear proposal to funders.  

[feriswn Gymraeg]

Arguably the most famous road in Wales, the A470 is 186 miles from shore to shore through the backbone of Wales, linking north to south. 

Peaceful and picturesque or slow and never-ending, what does the A470 mean to you? The road out of here, the road home, the beginnings of devolution? Glorious national parks, bypasses, being stuck behind a certain lorry firm, or worse, a caravan, the road to the Royal Welsh? From the seashore to slates, from nuclear power stations and fighter plane flypasts to forests and mountains: Bwlch yr Oerddrws, Pen Y Fan. On the road or on a journey, there’s no need to take the A470 too literally.

Arachne Press’ first foray into Welsh language poetry came from the publication of Ness Owen’s Mamiaith (Mother Tongue). We enjoyed the translation process both Welsh to English and English to Welsh and we’re back for more, with Ness and fellow editor Sian Northey, who helped with those translations, at the helm. (Sian takes credit for the brilliant A470 idea.) This is part of our plan for the next three years and we anticipate publication in Autumn 2022.

We want unpublished  poems from Welsh poets wherever you are, and all other poets living in Wales.

We are looking for the unanticipated: sensitive poems, or poems that challenge, in traditional forms and new forms.

NO Erotica, horror, gratuitous violence, sexism, racism, or homophobia.

We actively encourage submissions from underrepresented voices, including ethnically diverse poets, LGBTQ poets, poets with experience of multiple socio-economic deprivation and women poets. Where relevant we encourage you to also submit to our Deaf anthology and our B.M.E. anthology (call out coming soon).

This will be a fully bilingual anthology, celebrating the magnificence of both languages, and the artistry of both poets and translators.

Poems may be submitted in Welsh, English or in both languages. Poems that are submitted in one language only will be translated – either by the poet themselves or experienced translators, including our editor, Sian Northey.  

We aim to give Welsh and English equal weight and the translations will be laid out side by side. This does mean each poem, regardless of language, can only be 27 lines including title and spaces between stanzas. We have room for a maximum of 50 poems plus their translation.

We will definitely pay royalties, but are not expecting to pay advances – that will depend on funding.

Tell us you are interested (in either language or both) via this link. https://arachnepress.submittable.com/submit

Deadline 8th January 2021

All we need at this stage is your name and contact details and a short biographical paragraph including previous publications if relevant.

Mamiaith Book Launch videos part 4

Final videos of the launch of Mamiaith by Ness Owen, held at Canolfan Ucheldre in Holyhead.

Ness reads a pair of political poems in her second set – a bit of history, and a brilliant metaphor for the silencing of women, in Welsh and English.

and some of the musical interlude from Caine and ‘Caine’s dad’-

 

 

You can buy Mamiaith direct from our webshop or ask your local bookshop to stock it!

Caine and Aled Jones-Williams perform Titrwm Tatrwm, an ancient Ynys Môn folk song.

 

Mamiaith Book Launch videos part 3

Videos of the launch of Mamiaith by Ness Owen, held at Canolfan Ucheldre in Holyhead.

Ness reads a couple of more personal poems in her second set – her grandmother cooking, and her auntie’s feet!

 

You can buy Mamiaith direct from our webshop or ask your local bookshop to stock it!

Mamiaith Book Launch videos part 2

Videos of the launch of Mamiaith by Ness Owen, held at Canolfan Ucheldre in Holyhead.

This is where Ness’s friends got involved, reading some of the poems on Ness’s behalf…

Karen Ankers and Eabhan Ni Shuileabhain read #10 ways to say No (to Radioactive Mud)

 

Fiona Owen reads Laboon

 

Eabhan Ni Shuileabhain reads March

 

Anne Phillips reads One Name – Cymru

many thanks to all for getting involved.

You can buy Mamiaith direct from our webshop or ask your local bookshop to stock it!

Mamiaith Launch videos – Part 1

First of the videos from the launch of Mamiaith at Canolfan Ucheldre in Holyhead.

On the night the Eisteddfod packed up early because the weather was so bad, the hardy folk of Ynys Môn shrugged on their coats, and very possibly sou’westers and wellies, and came out to celebrate Ness Owen’s lovely book.

I don’t normally include my wittering on in the videos, but there were some important things to report in this introduction, so it’s included.

 

And here’s author Ness Owen reading her title poem, Mamiaith.

 

 

Happy Saint David’s Day /Dydd Gŵyl Dewi

It’s St David’s Day, so let’s celebrate our Welsh/Wales-based writers

Jeremy Dixon (In Retail, Liberty Tales, The Other Side of Sleep)

Nicholas McGaughey (Dusk, An Outbreak of Peace, Noon, Story Cities)

Karen Ankers (Noon)

Gareth Culshaw (Noon)

Diana Powell (Noon)

Ness Owen (Mamiaith, An Outbreak of Peace, Noon, Dusk, Shortest Day Longest Night)

We are publishing Ness Owen’s first collection of poems, Mamiaith on 8th August.

The Title means Mother Tongue and the collection is partially bilingual, because when the manuscript arrived, and there were several poems about the Welsh language, my first question was, why aren’t these in Welsh?

Ness is of an age that she was not taught in Welsh in school but in English, so that Welsh was effectively taught as a foreign language. Although she is a native speaker, she is unconfident of the fine detail fo writing in Welsh. After some discussion we agreed that if she could find someone to help, at least some of the poems should be in both languages.

That help was supplied by Sian Northey in the main, but also Iona Evans.

Mamiaith
Pwy wnaeth ddwyn y geiriau
o geg fy mam a’u taflu yn
ôl ataf mewn darnau sy’n
disgyn i’w lle yn fy mhen ond
yn gwrthod disgyn ar bapur?
Fel perthynas annisgwyl, yn dal
ag ogla capal, yn twt-twtio yn
fy nghlust, ysgwyd ei phen
a thrio fy neud yn ddiarth i fy
eitifeddiaeth.
Wyrion y ‘Not’ pryd nawn ni
dorri’r cortyn? Sut nawn ni
ddweud ein stori yn yr iaith fain?
Yn baglu ac ymddiheuro
dan ni’n anadlu Mamiaith
yn barod am chwyldro
ond yn gwybod y bydd ein
hysgrifen yn ein bradychu.

 

Mamiaith
Stolen from my mother’s
mouth, thrown back to me
in pieces that fit so neatly
inside my head but will
not fall onto the page.
Like an uninvited relation
still smelling of chapel
she tuts in my ear, shakes
her head, tries to make
me a stranger to what’s
already mine.
Grandchildren of the Not
When will we break the chord?
How do we tell our story in
a thin language? Tongue-tied
excusing our way through
we breath in Mamiaith
waiting to be unearthed
always knowing our
pen will betray us.