YHA Danywenallt

Poet Belle Roach says of her A470 poem, The Lamb:

There are some places that linger in your mind for decades. Even when the particulars of location and address become a little hazy, certain details remain. I’ve been compelled to write a poem about the hilly landscape of the Brecon Beacons for years, due in no small part to my (unfortunate) formative experience of finding a dead lamb somewhere near the YHA Danywenallt hostel as a child. Putting pen to paper and seeing my poem ‘The Lamb’ in print has helped me to reflect on my childhood misadventures along the A470, and to appreciate the awe-inspiring beauty of the Welsh landscape.

Mae yna rai llefydd sydd yn aros yn y cof am flynyddoedd. Hyd yn oed pan fo’r union leoliad neu gyfeiriad wedi mynd yn angof, mae yna fanylion yn aros. Bu ysfa ynof ers blynyddoedd i sgwennu cerdd am dirlun bryniau Bannau Brycheiniog. Un rheswm mawr am hyn oedd y profiad ffurfiannol (ac anffodus) pan oeddwn i’n blentyn o ddarganfod oen marw rhywle gerllaw hostel ieuenctid Danywenallt. Mae sgwennu amdano a gweld fy ngherdd ‘The Lamb’ wedi’i chyhoeddi wedi fy helpu i ystyried sawl anhap yn fy mhlentyndod ar hyd yr A470, ac i werthfawrogi prydferthwch syfrdanol tirlun Cymru.