[English version]
Mae gwasg Arachne Press yn eich gwahodd i gynnig cerddi gwreiddiol sy’n gysylltiedig efo’r A470 ar gyfer blodeugerdd.
Ar hyn o bryd nid oes ond angen mynegi diddordeb, er mwyn ein galluogi i wneud cais am nawdd.
Be ydi’r A470 i chi – siwrne dawel trwy harddwch Cymru neu daith araf a diddiwedd? Ai hon yw’r ffordd i adael, neu’r ffordd adref, neu ddechrau datganoli? Parciau Cenedlaethol, ffyrdd osgoi, llusgo mynd tu ôl i lori neu waeth fyth garafán, y ffordd i’r Sioe Frenhinol? Traethau, chwareli, pwerdai niwclear, awyrennau rhyfel, coedwigoedd, mynyddoedd, Bwlch yr Oerddrws, Pen y Fan? Taith ddiriaethol ar y tarmac neu daith o fath gwahanol? Does dim rhaid dehongli’r A470 yn llythrennol.
Mentrodd Arachne Press, gwasg fechan yn Llundain, i fyd cyhoeddi barddoniaeth Gymraeg am y tro cyntaf trwy gyhoeddi Mamiaith gan Ness Owen. Fe wnaethom fwynhau’r broses o gyfieithu’r cerddi o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg, felly dyma ni’n ôl yn awyddus i wneud mwy dan ofal Ness a’i chyd-olygydd Sian Northey (awgrym Sian oedd y teitl A470). Mae hyn yn rhan o’n cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cyhoeddi’r gyfrol yn yr hydref 2022. Byddwn hefyd yn cyhoeddi blodeugerddi eraill – cerddi Albanaidd, cerddi gan feirdd B.M.E. a cherddi gan feirdd Byddar – gyda ‘Mapio’ yn thema gyffredinol i’r cyfan.
Rydym yn edrych am gerddi sydd heb eu cyhoeddi eisoes, gan feirdd Cymraeg a Chymreig lle bynnag maent yn byw, a beirdd sydd yn byw yng Nghymru.
Rydym yn edrych am wreiddioldeb: cerddi teimladwy, neu gerddi sy’n herio, cerddi caeth neu gerddi rhydd.
NI fyddwn yn derbyn erotica, arswyd, trais dianghenraid, rhywiaeth, hiliaeth, na homoffobia.
Rydym yn annog cyfraniadau gan leisiau sydd yn cael eu tangynrychioli, gan gynnwys beirdd o gefndiroedd ethnig amrywiol, beirdd LGBTQ, beirdd â phrofiad o amddifadedd economaidd-gymdeithasol, a menywod.
Bydd hon yn flodeugerdd gyfan gwbl ddwyieithog, yn dathlu gwychder y ddwy iaith, ac yn dathlu doniau beirdd a chyfieithwyr.
Gallwch gynnig cerddi yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Bydd cerddi sy’n cael eu derbyn mewn un iaith yn unig yn cael eu cyfieithu – gan y bardd ei hun neu gan gyfieithwyr profiadol gan gynnwys Sian Northey, un o’r golygyddion.
Y nod yw trin y ddwy iaith yn gyfartal ac fe fydd y cyfieithiadau yn cael eu gosod ochr yn ochr â’r gwreiddiol. Golyga hyn na all yr un gerdd, na’i chyfieithiad, fod yn fwy na 27 llinell, gan gynnwys y bylchau rhwng penillion. Bydd lle yn y gyfrol ar gyfer uchafswm o 50 o gerddi a’u cyfieithiadau.
Telir breindal i’r beirdd, ond mae’n annhebygol y bydd tâl o flaen llaw am y cerddi – bydd hynny’n dibynnu ar y nawdd a dderbynnir.
Gadewch i ni wybod a oes genych ddiddordeb cyfrannu cerdd/cerddi trwy’r ddolen hon https://arachnepress.submittable.com/submit dyddiad cau 8 Ionawr 2021
Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Y cyfan sydd ei angen ar hyn o bryd yw eich enw a’ch manylion cyswllt a pharagraff byr amdanoch gan gynnwys, os yw’n berthnasol, wybodaeth am waith sydd wedi’i gyhoeddi eisoes.
Pingback: Expressions of interest invited from Welsh poets | Arachne Press